Atal Hunanladdiad

Ymateb Samariaid Cymru

Mae’r Samariaid yn elusen gofrestredig â’r nod o ddarparu cymorth emosiynol i unrhyw un sydd mewn trallod emosiynol.  Yng Nghymru, mae’r Samariaid yn gweithio’n lleol ac yn genedlaethol i godi ymwybyddiaeth o’u gwasanaeth ac estyn allan i gymunedau lleol i gynorthwyo pobl sy’n cael trafferth i ymdopi. Maent yn ceisio defnyddio eu harbenigedd a’u profiad i wella polisïau ac arferion ac yn gyfranwyr gweithgar i’r gwaith o ddatblygu a rhoi ar waith Gynllun Gweithredu Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed Cymru ‘Siarad â Fi 2’.

1.    Maint problem hunanladdiad yng Nghymru a thystiolaeth ynghylch ei achosion

 

1.1 Dros y byd i gyd, mae mwy nag 800,000 o bobl yn marw trwy hunanladdiad bob blwyddyn.[1] Yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon, mae mwy na 6000 o bobl yn lladd eu hunain bob blwyddyn ac yng Nghymru, mae rhwng 300 a 350 o bobl yn marw trwy hunanladdiad bob blwyddyn. Mae hyn tua theirgwaith y nifer sy’n cael eu lladd mewn damweiniau ar y ffyrdd. Yng Nghymru ac yn Lloegr, hunanladdiad yw achos mwyaf cyffredin marwolaeth ymysg dynion 20-49 oed. O’r 322 o hunanladdiadau yng Nghymru yn 2016, roedd 265 (82%) gan ddynion.[2]Yn 2015, y grwpiau oedran â’r gyfradd hunanladdiadau uchaf am bob 100,000 o bobl yng Nghymru oedd: 30-34 oed, i bawb, a 30-34 oed, i ddynion. Wrth adolygu tueddiadau dros amser, bu cynnydd cyffredinol mewn hunanladdiadau ymysg dynion yng Nghymru dros y 30 mlynedd ddiwethaf, a gwelwyd tuedd benodol ar i fyny ers o gwmpas 2008. Mae hunanladdiadau ymysg menywod yng Nghymru wedi gostwng dros yr un cyfnod ond, yn unol â’r duedd ymysg dynion, gwelwyd cyfnod o gynnydd cyffredinol ers 2008.[3]

 

1.2 Er nad oes un rheswm unigol pam mae pobl yn lladd eu hunain, mae amrywiaeth fawr o ffactorau risg a grwpiau sydd â risg uchel o ganlyniad ac sy’n fwy tebygol o brofi teimladau hunanladdol neu hunanladdiad a gwblhawyd. Mae’r grwpiau hyn yn cynnwys: dynion ifanc a chanol oed; pobl sydd mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd meddwl; pobl sy’n byw mewn ardaloedd o amddifadedd economaidd gymdeithasol; pobl â hanes o hunan-niwed; pobl sy’n profi unigedd ac arwahaniad; pobl sydd mewn cysylltiad â’r system cyfiawnder troseddol, gan gynnwys carcharorion; pobl â hanes o gamddefnyddio alcohol a sylweddau; ceiswyr lloches a ffoaduriaid; y cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr; grwpiau galwedigaethol penodol megis meddygon, nyrsys, gweithwyr milfeddygol, ffermwyr a gweithwyr amaethyddol; ffrindiau a theuluoedd sydd wedi colli rhywun trwy hunanladdiad, a phobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsryweddol ac sy’n cwestiynu (LGBTQ).

 

1.3 Rhaid wrth ymdrech dargededig ar y cyd gan gyrff cyhoeddus a chyrff gwirfoddol i ganfod a lleihau risg hunanladdiad mewn grwpiau risg uchel. Er bod yn rhaid inni gynnal ymagwedd poblogaeth gyffredinol at atal hunanladdiad yng Nghymru, mae’n bwysig bod yna wybodaeth drawslywodraethol a thraws-sectorol am y ffactorau risg am broblem mor gyffredin ym maes iechyd y cyhoedd.

 

2.    Effaith gymdeithasol ac economaidd hunanladdiad.

 

2.1 Mae pob hunanladdiad yn drasiedi sy’n cael effaith drychinebus ar deuluoedd, ffrindiau, cydweithwyr a’r gymuned ehangach. Am bob un o’r marwolaethau trwy hunanladdiad yng Nghymru bob blwyddyn, awgrymwyd bod effaith ddofn ar 6 o bobl ar gyfartaledd, ac mae teuluoedd a ffrindiau sydd wedi colli rhywun trwy hunanladdiad1.7 gwaith yn fwy tebygol o geisio lladd eu hunain.[4] Amcangyfrifwyd mai cost gyfartalog hunanladdiad yn y boblogaeth gyffredinol yw £1.67 miliwn am bob hunanladdiad a gwblhawyd.[5] Mae hyn yn cynnwys costau anniriaethol (colled bywyd i’r unigolyn a phoen a dioddefaint i berthnasau), yn ogystal â chynnyrch a gollir (â chyflog a heb gyflog), amser yr heddlu ac angladdau.

 

2.2  Rhaid inni ddarparu gwell gwybodaeth a chymorth i bobl sydd wedi colli rhywun trwy hunanladdiad neu y mae hunanladdiad wedi effeithio arnynt. Mae rhestrau aros am gymorth gyda phrofedigaeth yn rhwystr mawr i ofal dilynol yng Nghymru. Rhaid i adnoddau megis ‘Help is at Hand Cymru’ gael eu lledaenu’n ehangach. Gall y stigma o gwmpas marwolaeth trwy hunanladdiad achosi arwahaniad i’r teuluoedd a ffrindiau sy’n cael eu gadael ar ôl, ac mae rhai sydd wedi goroesi colled trwy hunanladdiad yn cael problemau nodedig iawn o ran profedigaeth ynghylch euogrwydd, cywilydd a gwrthodiad. Rhaid inni hybu siarad fel ffordd o geisio cymorth ac ymyrraeth gynnar er mwyn lleihau stigma colli rhywun trwy hunanladdiad.

 


 

3.    Effeithiolrwydd ymagwedd Llywodraeth Cymru at atal hunanladdiad

 

3.1 Fel aelodau o Grŵp Cynghori Cenedlaethol ar Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed Llywodraeth Cymru, rydym wedi cyfrannu at y gwaith o ddatblygu a gweithredu Siarad â Fi 2. Rydym yn croesawu’r dull sy’n seiliedig ar y “3 C” fel y’u gelwir yn Saesneg, a nodir yn Siarad â Fi 2 (trawslywodraethol, traws-sectorol a chydweithredol o ran dylunio a darparu) a nodi darparwyr gofal sy’n flaenoriaeth, lleoedd sy’n flaenoriaeth a phobl sy’n flaenoriaeth. Yn nhermau cynnydd, credwn fod gweithredu’n broblem o hyd. Yn adolygiad man canol Iechyd Cyhoeddus Cymru o’r gwaith o weithredu Siarad â Fi (2012), nodwyd bod gweithredu’n anodd oherwydd yr anhawster wrth sefydlu Grwpiau Rhanbarthol a diffyg cefnogaeth lefel uchel mewn llawer o fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol. Credwn fod bodolaeth cynlluniau o’r fath yn hanfodol i’r ymdrechion i leihau hunanladdiad a hunan-niwed yng Nghymru ond mae ar y cynllun gweithredu hwn angen fframwaith clir ar gyfer gweithredu; un sy’n cydnabod pwysigrwydd gweithredu’n lleol.

 

3.2Mae llawer o amcanion lefel uchaf Siarad â Fi 2 yn dibynnu ar weithio’n effeithiol mewn partneriaeth yn lleol trwy ddull traws-gydweithredol.  Er enghraifft, un o’r prif amcanion yw gwella ymwybyddiaeth, gwybodaeth a dealltwriaeth am hunanladdiad a hunan-niwed ymhlith unigolion sy’n dod i gysylltiad yn aml â phobl sydd â risg o gyflawni hunanladdiad a hunan-niwed a gweithwyr proffesiynol yng Nghymru. Caiff yr amcan hwn ei hwyluso trwy hyfforddiant rheng flaen ar ymwybyddiaeth o hunanladdiad i wasanaethau cyhoeddus. Fodd bynnag, er mwyn cyflawni hyn, mae’n hanfodol i wasanaethau, asiantaethau a sefydliadau lleol weithio mewn ffordd gydgysylltiedig a chydweithredol i reoli a thargedu eu hadnoddau’n effeithiol.

 

3.3 Y ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau’r dull lleol a chydweithredol hwn yw creu a gweithredu cynlluniau lleol i atal hunanladdiad a sicrhau y caiff Byrddau Iechyd Lleol ac awdurdodau lleol eu cynnwys mewn Fforymau Atal Hunanladdiad Amlasiantaethol Rhanbarthol. Caiff cynlluniau lleol i atal hunanladdiad eu datblygu a’u gweithredu gan grwpiau amlasiantaethol ac maent yn hanfodol i weithredu’r strategaethau cenedlaethol ar atal hunanladdiad a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru.

 

3.4 Rydym yn ymwybodol bod anghysondeb ynghylch fforymau lleol a fforymau rhanbarthol yng Nghymru. Er bod yna rai grwpiau sy’n hyrwyddo’r strategaeth ac yn gweithio’n amlasiantaethol, mae yna ardaloedd awdurdod lleol yng Nghymru nad ydynt wedi ymroi digon. Heb gynllun lleol i atal hunanladdiad, mae gwaith i atal hunanladdiad yn llawer llai effeithiol nag y gallai fod.

 

Trwy ein cydweithio ein hunain, mae yna enghreifftiau o arferion da gan wasanaethau cyhoeddus wrth leihau mynediad i ddulliau hunanladdiad. Rydym yn darparu arwyddion y Samariaid i amrywiaeth o wasanaethau cyhoeddus, y maent yn eu gosod mewn mannau lle maent wedi nodi risg neu wedi gweld cynnydd mewn ymddygiad hunanladdol neu hunanladdiadau. Rydym yn gweld gweithio partneriaethol da rhwng gwasanaethau cyhoeddus (megis yr Heddlu a Thân ac Achub) ond nid yw hyn yn golygu o angenrheidrwydd eu bod wedi’u cysylltu â fforymau lleol i atal hunanladdiad. Mae hyn oherwydd amrywiaeth o resymau, o ddiffyg ymwybyddiaeth i’r ffaith bod rhai grwpiau’n canolbwyntio llai ar gamau gweithredol.

 

Lleihau mynediad i ddulliau

 

3.5Mae yna dystiolaeth sy’n awgrymu y gellir achub bywydau trwy ddefnyddio amrywiaeth o fesurau gan gynnwys: gosod arwyddion y Samariaid; rhwystrau ffisegol; rhwydi a llinellau ffôn mewn mannau lle mae risg uchel hunanladdiad; a gwell gwyliadwriaeth, megis teledu cylch cyfyng, mewn mannau lle mae risg uchel posibl neu hysbys.[6]Gallai mannau â risg uchel gynnwys: pontydd, traphontydd, adeiladau uchel, meysydd parcio aml-lawr, clogwyni a chroesfannau gwastad. Mae rhai gwasanaethau yr ydym yn gweithio gyda hwy yn nodi buddion ymagwedd ataliol at leihau mynediad i ddulliau mewn mannau lle gwyddys bod risg uchel neu sydd â’r potensial i fod â risg uchel. Yn nhermau cyflawni hyn, y prif rwystr yn aml yw cyllid a diffyg cyd-ddealltwriaeth ledled y sector. Er ein bod yn gweithio gyda llawer o hyrwyddwyr iechyd meddwl ac atal hunanladdiad, gall gosod arwyddion yn arbennig fod yn weithdrefn hirfaith yn nhermau cyllid a chymeradwyaeth.

Hyfforddiant ar atal hunanladdiad

3.6Ochr yn ochr â hyn, dylai hyfforddiant ar atal hunanladdiad fod yn rhan fawr o waith lleol i atal hunanladdiad. Mae angen mwy o ymwybyddiaeth ynghylch buddion ymagwedd ataliol at hunanladdiad, gan gynnwys hyfforddiant o’r math hwn. Dylid darparu hyfforddiant i weithwyr y rheng flaen, yn y sector cyhoeddus ond hefyd mewn sectorau rheng flaen allweddol sy’n fwy tebygol o gyfarfod â phobl sydd mewn grwpiau agored i niwed. Dylid hefyd pwysleisio mwy o ymwybyddiaeth o hyfforddiant arbenigol a ddarperir gan sefydliadau, gan gynnwys y Samariaid a Mind. Mae hyfforddiant ar atal hunanladdiad yn arbennig o bwysig i’r rheiny a nodir fel ‘darparwyr gofal sy’n flaenoriaeth’ yn Siarad â Fi 2, megis staff Canolfannau Byd Gwaith, staff iechyd argyfwng ac athrawon.

 

3.7Un enghraifft dda o fuddion hyfforddiant ar atal hunanladdiad i weithleoedd a gwasanaethau cyhoeddus yw ein gwaith gyda’r diwydiant rheilffyrdd yng Nghymru. Yn 2010, dechreuodd y Samariaid weithio gyda Network Rail gyda'r nod o atal hunanladdiadau ar y rheilffyrdd a chynorthwyo'r rheiny y mae hunanladdiadau o’r fath yn effeithio arnynt. Erbyn hyn mae Rhaglen y Diwydiant Rheilffyrdd i Atal Hunanladdiad (RISPP) yn bartneriaeth ar y cyd rhwng y Samariaid, Network Rail a’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig a’r diwydiant rheilffyrdd ehangach.

 

Yng Nghymru, mae ein partneriaeth gyda Network Rail a’n gwaith gyda’r diwydiant rheilffyrdd ehangach yn canolbwyntio ar saith maes allweddol: hyfforddiant ar atal hunanladdiad, cynnwys y diwydiant rheilffyrdd mewn gweithgareddau atal hunanladdiad a chymorth, estyn allan i’r rheiny sydd â’r risg mwyaf, rhoi cymorth i bobl mae digwyddiad trawmatig wedi effeithio arnynt, cymorth mewn gorsafoedd yn dilyn hunanladdiad, gweithio gyda’r cyfryngau i hybu adrodd yn gyfrifol ar hunanladdiadau ar y rheilffyrdd, a gweithio gyda’r heddlu a gwasanaethau iechyd. Yng Nghymru, mae tîm atal hunanladdiad Network Rail wedi datblygu cynllun 12 pwynt i fwrw ymlaen ag agenda atal hunanladdiad. Mae ei gynnwys yng nghyd-gynllun atal hunanladdiad Llwybrau Cymru, yn ogystal â mabwysiadu argymhellion o Siarad â Fi 2, yn sicrhau eu bod yn gwneud gwahaniaeth i Gymru a’r Llwybrau. Erbyn hyn mae 1,400 o staff rheng flaen Trenau Arriva yng Nghymru wedi cwblhau lefel sylfaenol hyfforddiant ar atal hunanladdiad, gan eu galluogi i fod yn fodd atal, ochr yn ochr â’u hyfforddiant ar weithredu ar ôl digwyddiad.

 

4.    Gwasanaethau iechyd meddwl

 

4.1 Mae 1 o bob 3 o bobl sy’n marw trwy hunanladdiad wedi bod mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd meddwl yn y flwyddyn cyn eu marwolaeth.[7] Credwn y gall mynediad cyflym ac amserol at therapïau seicolegol alluogi a gwella ymadferiad, a bod yn fath o ymyrraeth gynnar a all leihau’r angen am wasanaethau eilaidd. Er y gefnogaeth drawsbleidiol, a’r ffocws ar fynediad i therapïau seicolegol yn Rhaglen Wella Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc (T4CYP), Law yn Llaw at Iechyd Meddwl a Mesur Iechyd Meddwl (Cymru), mae mynediad i therapïau seicolegol yn dal i fod yn fater problemus yng Nghymru.

 

4.2 Gall iechyd meddwl pobl ddirywio’n sylweddol yn ystod amseroedd aros hir am therapïau seicolegol, a all arwain at deimladau hunanladdol neu hunanladdiad. Fel aelodau o Gynghrair Iechyd Meddwl Cymru, credwn ei bod yn hanfodol cyflwyno mesuriadau amser aros am therapïau seicolegol ar draws meysydd gofal sylfaenol ac eilaidd. Dylai’r data hyn gael eu cofnodi a’u cyhoeddi er mwyn lleihau amser aros.

 

Cymorth ar ôl gadael yr ysbyty

 

4.3 Mae hefyd yn hanfodol i fyrddau iechyd yng Nghymru gasglu a chyhoeddi data ar gyfer cymorth ar ôl gadael yr ysbyty i gleifion yn dilyn derbyniadau oherwydd hunan-niwed neu argyfwng iechyd meddwl. Ym mis Ebrill 2017, dim ond un bwrdd iechyd yng Nghymru sy’n cofnodi faint o bobl sy’n cael cyswllt dilynol amserol ar ôl cael eu rhyddhau o’r ysbyty. Mae’r diffyg data ynghylch cymorth ar ôl gadael yr ysbyty yng Nghymru’n destun pryder difrifol. Dangosodd arolwg o fwy nag 850 o bobl â phroblemau iechyd meddwl ynghylch eu profiadau ar ôl gadael yr ysbyty yng Nghymru fod y rhai na chawsant gymorth dilynol priodol (ar ôl saith diwrnod neu ddim o gwbl) dwywaith yn fwy tebygol o geisio lladd eu hunain a thraean yn fwy tebygol o niweidio eu hunain, o’u cymharu â’r ymatebwyr a ddywedodd eu bod wedi cael cymorth dilynol cyn pen 7 diwrnod ar ôl cael eu rhyddhau o’r ysbyty.[8]

 

4.4 Canfu ymchwil gan yr NSPCC fod 1,193 o bobl ifanc wedi cael eu derbyn i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yng Nghymru oherwydd hunan-niwed yn 2015. Mae’r nifer honno wedi cynyddu 41% yn y tair blynedd ddiwethaf.[9]Mae strategaethau cenedlaethol i atal hunanladdiad yn cydnabod bod gan wasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys ran bwysig i’w chwarae yn y gwaith o drin pobl sydd wedi hunan-niweidio neu wedi ceisio lladd eu hunain. Mae gan o leiaf hanner y bobl sy’n marw trwy hunanladdiad hanes o hunan-niwed, ac mae un o bob pedwar wedi mynd i’r ysbyty oherwydd hunan-niwed yn y flwyddyn flaenorol.[10]O gofio'r risg arbennig o uchel o hunanladdiad sydd gan bobl sy’n mynd i’r ysbyty a’r adran Damweiniau ac Achosion Brys ar ôl hunan-niweidio, mae’n hanfodol bod gofal dilynol cyflym ar gael bob amser. Mae’n hanfodol bod unrhyw un sydd wedi hunan-niweidio’n cael ei drin â pharch ac yn cael asesiad priodol a gofal dilynol. 

 

Gwella cywirdeb ac argaeledd data ar hunanladdiad

 

4.5 Rydym yn croesawu rhai gwelliannau diweddar o ran argaeledd data ar hunanladdiad oddi wrth asiantaethau yn y Deyrnas Unedig fel y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS). Erbyn hyn mae data ar hunanladdiad ar gael yn gyflymach ac mewn fformatau mwy defnyddiol. Fodd bynnag, mae llawer o heriau o hyd gyda data ar hunanladdiad ar draws y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon, a fydd yn llesteirio ein dealltwriaeth o hunanladdiad onid eir i’r afael â hwy.

 

4.6Mae canfod a chofnodi nifer yr ymgeisiau at hunanladdiad a hunanladdiadau a gwblhawyd, a’u monitro, yn rhan annatod o ddatblygu gwaith atal hunanladdiad. Mae archwiliadau hunanladdiad lleol yn ffordd effeithiol i gyrff y sector cyhoeddus ganfod ac ymateb i grwpiau risg uchel yn eu hardaloedd, yn ogystal â datgelu mannau sy’n destun pryder. Mae’n arfer gorau i sefydliadau yn y sector cyhoeddus, gan gynnwys Byrddau Iechyd, Awdurdodau Lleol a’r crwner, weithio i ddatblygu a chyflawni archwiliad hunanladdiad. Dysgu gwersi o’r ymateb i hunanladdiad er mwyn lleihau nifer yr hunanladdiadau yn y dyfodol a rhoi cymorth gwell i deuluoedd sydd wedi colli rhywun.

 

 

5.    Dulliau arloesol o atal hunanladdiad

 

Addysg – Buddsoddi mewn atal ac ymyrraeth gynnar

 

5.1  Mae llawer o agweddau ar y gymdeithas gyfoes yn cael effaith negyddol ar iechyd a lles meddyliol plant a phobl ifanc. Mae’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed arbenigol yng Nghymru (CAMHS) o dan fwy o bwysau nag erioed o’r blaen. Yn y 4 blynedd ddiwethaf bu 100% o gynnydd yn y galw.[11]

 

5.2 Rhaid inni wreiddio ymagwedd iechyd cyhoeddus at iechyd meddwl ac atal hunanladdiad, trwy ganolbwyntio’n bennaf ar atal yn hytrach na gwella yn unig. Gall buddsoddi mewn atal ac ymyrraeth gynnar leihau costau dynol, cymdeithasol ac economaidd. Dylid edrych ar raglenni iechyd emosiynol mewn ysgolion fel math o hyrwyddo, atal ac ymyrraeth gynnar a allai leihau’r pwysau ar CAMHS, lleihau problemau iechyd meddwl penodol, a gwella cyflawniad academaidd.

 

5.3 Er mwyn rhoi’r cwricwlwm newydd ar waith yn llwyddiannus a gwireddu ei botensial, rhaid inni ddarparu hyfforddiant ymwybyddiaeth o iechyd emosiynol ac iechyd meddwl i staff addysgu ym mhob ysgol yng Nghymru er mwyn cynyddu hyder wrth addysgu’r pwnc. Rhaid inni gynyddu hyder ymysg staff addysgu newydd a sicrhau llythrennedd iechyd meddwl sylfaenol trwy wreiddio ymwybyddiaeth o iechyd emosiynol ac iechyd meddwl mewn Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon a sicrhau y caiff potensial maes dysgu ‘Iechyd a Lles’ ei wireddu. Dylai cynnwys iechyd a lles emosiynol yn y cwricwlwm fod yn orfodol ac nid yn ddewisol.

 

5.4 Yn ddiweddar rydym wedi croesawu cyhoeddi cynllun peilot dwy flynedd gan Lywodraeth Cymru, a fydd yn galluogi disgyblion â phroblemau iechyd meddwl mewn mwy na 200 o ysgolion yng Nghymru i gael cymorth cynnar gan ymarferwyr CAMHS ar y safle. Er bod cysylltu gwasanaethau addysg ac iechyd fel hyn yn hanfodol, hoffem bwysleisio ein bod yn dal i alw am i gamau gweithredu gael eu sicrhau yn gynharach ac ym mhrif gyd-destun ymyrraeth gynnar trwy feithrin gwydnwch; sgil a all leddfu hunanladdiad yn y dyfodol. Mae’n hanfodol inni wireddu potensial y cwricwlwm newydd.

 

Pŵer y gymuned

 

5.5 Mae unigedd ac arwahaniad yn gwneud hunanladdiad yn fwy tebygol, ac felly mae cysylltiad cymdeithasol yn ffactor gwarchodol ar gyfer risg hunanladdiad. Un ymyriad sy’n mynd i’r afael ag unigedd ac arwahaniad yw cymryd rhan mewn grwpiau cymunedol ac allestyn. Yn nhermau sicrhau ffactor gwarchodol cysylltiad cymdeithasol, gall thema neu natur grwpiau cymunedol ac allestyn fod yn eang ac amrywiol.

 

5.6 Nod sefydliadau fel Men’s Sheds Cymru, sy’n dweud bod allgau cymdeithasol yn broblem gudd ond arhosol mewn llawer o gymunedau, yw mynd i’r afael â’r broblem trwy greu grwpiau cymunedol i ddynion gael dilyn eu diddordebau, datblygu rhai newydd, perthyn i grŵp unigryw, teimlo’n ddefnyddiol ac yn fodlon a chael ymdeimlad o berthyn. Erbyn hyn mae mudiad Men’s Sheds wedi ymsefydlu ac yn tyfu yn y Deyrnas Unedig ond mae sefydliadau fel hwn yn cael eu cefnogi a’u hariannu gan y Trydydd Sector ac mae angen diogelu eu cynaliadwyedd er mwyn gwarchod y rheiny sy’n fwyaf bregus.

 

“Mae’n rhoi rheswm imi godi yn y bore ac am ddau ddiwrnod yr wythnos dwi’n teimlo bod gen i waith ystyrlon. Dwi’n teimlo’n dda wrth helpu a gweithio gyda dynion sydd yn aml yn teimlo’n unig yn y gymuned. Byddai angen rheswm da iawn arna i i beidio â dod.” Bill, 67

 

5.7 Mae’n hanfodol bod y mathau hyn o grwpiau cymunedol neu allestyn cymdeithasol yn cael eu cydnabod am eu buddion i iechyd; mae cysylltiedigrwydd cymdeithasol yn mynd i’r afael ag unigedd ac arwahaniad, a gall weithio i gyrraedd y rheiny sydd â’r risg uchaf o gael eu hallgau’n gymdeithasol a bod yn hunanladdol. Mae hyn yn arbennig o arwyddocaol yng nghyd-destun presennol Cymru, ar ôl i gynllun Cymunedau yn Gyntaf ddod i ben a gyda diffyg strategaeth ganolog. Dylid canolbwyntio mwy ar grwpiau cymunedol fel math o ataliaeth ac ymyrraeth gynnar ar gyfer unigedd ac arwahaniad yng Nghymru a dylid llunio datrysiadau polisi i gynyddu cyfranogiad cymunedol.

 

Lleihau risg y rhyngrwyd i’r eithaf

 

5.8 Yn aml mae’r rhyngrwyd yn cael ei ddefnyddio gan bobl sy’n hunan-niweidio a/neu’n ceisio lladd eu hunain i ymchwilio i ddulliau posibl ac i ddarllen hanesion personol o deimladau ac ymddygiad hunanladdol pobl eraill. Mewn arolwg poblogaeth o bobl 21 oed, o’r 248 o ymatebwyr oedd wedi ceisio lladd eu hunain (6% o’r sampl gyfan), cofnododd bron tri chwarter ryw fath o ddefnydd o’r rhyngrwyd oedd yn gysylltiedig â hunanladdiad ar ryw adeg yn eu bywydau. Roedd un o bob pump wedi mynd i safleoedd oedd yn rhoi gwybodaeth am sut i’ch brifo’ch hun neu ladd eich hun, er bod y rhan fwyaf o’r rhain hefyd wedi mynd i safleoedd cymorth.[12]

 

5.9 Nododd yr ymchwil hon, a gyflawnwyd gan y Samariaid a Phrifysgol Bryste, y gall y rhyngrwyd fod yn fygythiad arbennig i bobl ifanc. Nododd adroddiad polisi a lansiwyd yn 2016 amrywiaeth o oblygiadau ac argymhellion i’r diwydiant a darparwyr cymorth ar-lein, a chredwn y dylid dosbarthu’r ddau mewn modd priodol. 



[1] Sefydliad Iechyd y Byd(WHO). (2014). Preventing suicide: A global imperative. Cafwyd o:http://www.who.int/mental_health/suicide-prevention/world_report_2014/en/

 

[2] Swyddfa Ystadegau Gwladol (2016). Suicides in the United Kingdom, 2015 registrations. Y Deyrnas Unedig: Swyddfa Ystadegau Gwladol

 

[3] Scowcroft, E. (2016). Suicide statistics report 2016: Including data for 2012-2014. Surrey: Samariaid.

 

[4] Pitman, A. L., Osborn, D. P., Rantell, K., a King, M. B. (2016). Bereavement by suicide as a risk factor for suicide attempt: A cross-sectional national UK-wide study of 3432 young bereaved adults.

[5]McDaid, D., Park, A., a Bonin, E. (2011). Population level suicide awareness training and intervention. In M. Knapp, D. McDaid & M. Parsonage (Eds.), Mental Health Promotion and Prevention: The Economic Case (26-28). Llundain: Yr Adran Iechyd.

[6]Interventions to reduce suicides at suicide hotspots: a systematic review and meta-analysis Pirkis, Jane et al.The Lancet Psychiatry, Volume 2, Issue 11, 994 - 1001

[7] National Confidential Inquiry into Suicide and Homicide by People with Mental Illness (NCISH). (2016). Making mental health care safer: Annual report and 20-year review. University of Manchester.

[8] Thousands left to cope alone after leaving mental health hospital - putting their lives at risk Mind Cymru (Ebrill 2017)

[9] Child self-harm figures 'frightening' in Wales, NSPCC says, BBC Wales (Rhagfyr 2016)

[10] How local authorities can prevent suicide, Samariaid (2017)

[11]Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru. (2014). Ymchwiliad i Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS)

[12] Adroddiad polisi gan Brifysgol Bryste / Samariaid (7/2016) Priorities for suicide prevention: balancing the risks and opportunities of internet use